Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 14
Mawrth 2017
Amser y
cyfarfod: 13.30
(45 munud)
Mae’r Llywydd wedi cael gwybod, o dan Reol Sefydlog 12.58, y bydd Arweinydd y Tŷ yn ateb cwestiynau ar ran Prif Weinidog Cymru.
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
I’r Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni):A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am effeithiau iechyd posibl glofa glo brig Ffos-y-Fran, yn dilyn y cyhoeddiad yr wythnos diwethaf gan rapporteur arbennig y Cenhedloedd Unedig ar wastraff a sylweddau peryglus?
I’r Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes:
Lee Waters (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y methiant i benodi cynrychiolydd o Gymru ar fwrdd y BBC?
I’r Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith:
Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddyfodol hirdymor y cyswllt awyr rhwng y gogledd a'r de a gaiff gymorthdaliadau, yn sgil y newyddion bod Citywing wedi cael ei ddiddymu?
I Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon:
Darren Millar (Gorllewin Clwyd)?:A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr achos o danseilio diogelwch data a effeithiodd ar staff y GIG sy'n defnyddio mesuryddion dognau o ymbelydredd?
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(60 munud)
(45 munud)
(30 munud)
NDM6254 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno mai Senedd y DU ddylai ystyried y darpariaethau ym Mil yr Economi Ddigidol sy'n ymwneud â rhannu data, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 24 Tachwedd 2016 yn unol â Rheol Sefydlog
29.2(i). Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Mawrth 2017 yn unol â Rheol
Sefydlog 29.2(i).
Dogfennau Ategol
Bil
yr Economi Ddigidol
Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Atodol
Adroddiad Y Pwyllgor Cydraddoldeb,
Llywodraeth Leol a Chymunedau: Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol
(60 munud)
NDM6255 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cytuno bod Cymru ar y blaen o safbwynt ailgylchu gwastraff trefol ac yn cefnogi'r bwriad sy'n golygu:
a) creu rhagor o fentrau er mwyn cyflawni'r canlyniadau gorau posibl o ran datblygu cynaliadwy ac amcanion Symud Cymru Ymlaen
b) mai Cymru fydd y wlad orau yn y byd am ailgylchu.
Dogfen Ategol
Symud Cymru Ymlaen
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1.
David Rowlands
(Dwyrain De Cymru)
Dileu is-bwynt a)
[Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol]
Gwelliant 2.
Rhun ap Iorwerth
(Ynys Môn)
Ychwanegu at ddiwedd is-bwynt a):
'fel cynllun ad-dalu blaendal ar gyfer plastig, gwydr a chaniau a gwahardd pecynnau polystyren.'
Gwelliant 3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
'sicrhau canlyniadau datblygu cynaliadwy drwy economi fwy
gylchol yn seiliedig ar ddefnydd arloesol o Ddeddf Llesiant
Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.'
'Deddf
Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015'
Gwelliant 4. David Rowlands (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi â phryder bod cyfraddau ailgylchu yn amrywio'n sylweddol ar draws ardaloedd awdurdodau lleol yng Nghymru, yn rhannol oherwydd gwahaniaethau mewn cynlluniau ailgylchu a chasglu gwastraff a ddefnyddir ym mhob ardal awdurdod lleol;
Yn gresynu bod 36,000 o achosion o dipio anghyfreithlon wedi'u cofnodi yng Nghymru yn 2015/16, gyda chostau o dros £2.1 miliwn i awdurdodau lleol eu clirio;
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod awdurdodau lleol yn casglu gwastraff gweddilliol cartrefi bob pythefnos fan lleiaf, er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, ac atal tipio anghyfreithlon.
Gwelliant 5.
Rhun ap Iorwerth
(Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Fel mai Cymru fydd y wlad ailgylchu orau yn y byd, mae angen i awdurdodau lleol fabwysiadu arfer gorau er mwyn codi cyfraddau ailgylchu, a dysgu gan awdurdodau fel Ceredigion, lle y cafodd 68.1 y cant o wastraff trefol ei ailgylchu yn 2015/16.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 15 Mawrth 2017